Thursday, 17 November 2011

Tyrd i fewn Jac

"Tyrd i fewn Jac”

“Na dwi isho chwarae”

“Tyrd i fewn Jac.

Mae’n amser gwneud gwaith cartre.

Tyrd i fewn Jac.

Cyn i fi fynd yn flin”

“Ond Mam dwi isho chwarae,

Paid a bod yn miiiin!

Dwi isho dringo coed,

a chwarae hefo pêl.

Mae gwneud gwaith cartre,

yn waeth na bod yn jêl”

“Tyrd i fewn Jac,

am y tro olaf!”

“Na Mam dwi’m isho,

a fedri di ddim gofyn eto...”