"Tyrd i fewn Jac”
“Na dwi isho chwarae”
“Tyrd i fewn Jac.
Mae’n amser gwneud gwaith cartre.
Tyrd i fewn Jac.
Cyn i fi fynd yn flin”
“Ond Mam dwi isho chwarae,
Paid a bod yn miiiin!
Dwi isho dringo coed,
a chwarae hefo pêl.
Mae gwneud gwaith cartre,
yn waeth na bod yn jêl”
“Tyrd i fewn Jac,
am y tro olaf!”
“Na Mam dwi’m isho,
a fedri di ddim gofyn eto...”